Amdanom Ni
“Denbigh at the Crossroads of the Vale
of Clwyd"
Daeth Cyngor Tref Dinbych i fodolaeth ar y 1af o Ebrill 1974 yn
dilyn ad-drefniant llywodraeth leol.
O flaen hyn, roedd gan tref Dinbych ei awdurdod leol ei hyn – Cyngor
Bwrdeistref Dinbych gyda 16 o gynghorwyr yn cael eu harwain gan Faer
a 3 Henadur. Ffurfiwyd y Cyngor Bwrdeistref ar y 1af o Ionawr 1836.
Mae gan y Cyngor Tref presennol 15 o gynghorwyr yn cynrychioli tair ward y dref:
Uchaf, Canol ac Isaf. Mae 5 o gynghorwyr yn cynrychioli’r Ward Uchaf, 3 y Ward
Ganol a 7 y Ward Isaf. Yn ôl Cyfrifiad 2001, 9,528 yw poblogaeth Dinbych wedi ei
rannu rhwng y wardiau fel a ganlyn:
Uchaf - 3,116
Canol - 1,997
Isaf - 4,415
Etholwyd pump o gynghorwyr sir i gynrychioli Dinbych ar Gyngor Sir Ddinbych – 2
ar gyfer y Ward Uchaf (gan gynnwys Cymuned Henllan), 1 ar gyfer y Ward Ganol a 2
ar gyfer y ward Isaf. Mae dau o’r cynghorwyr sir hefyd yn aelodau o’r Cyngor
Tref.
Gweinyddir y Cyngor Tref gan Glerc y Dref, sydd hefyd yn Swyddog Cyllid, gyda
swyddfa wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref.
Muriau a Llwybrau
Mae Muriau’r Dref o ddiddordeb mawr, a cheir prosiect newydd sef ‘Muriau a
Llwybrau’ sy’n pontio rhwng safle’r dref a’r ardal gastell a’u muriau. Bu’r
muriau yma yn dal lluoedd Oliver Cromwell yn ôl yn ystod y Rhyfel Cartref. Os am
gerdded y Muriau, cewch fenthyg yr agoriadau wrth ofyn yn y Llyfrgell yng
nghanol Dinbych, ac yna cewch fwynhau profiad bythgofiadwy!
Mae Porth Burgess yn brif fynedfa i’r hen dref gyda’u dau dŵr sydd bellach ar
sêl ddinesig Dinbych. Adeilad arall werth ei gweld yw Eglwys Caerlŷr , ac er nad
yw’n gwbl orffenedig, adeiladwyd gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, cariad
honedig Brenhines Elisabeth y Cyntaf.
Adeiladau Hardd
Mae’r Cynllun Treftadaeth Trefol wedi adfer nifer o adeiladau lleol yn wych, ac
y
mae nifer ohonynt ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein penwythnosau treftadaeth.
Ymhlith y rhain ceir hen farchnad ymenyn, tŷ brodorol Carmelaidd, Gwesty’r
‘Bull’, tŷ Tuduraidd Bron y Ffynnon, dwy eglwys, sef Santes Fair a Santes
Marchell. Ceir hefyd capeli, megis Capel Mawr, Capel Pendref a Chapel Lôn
Swan.Cofiwn y meddyg Dr Evan Pierce o’r 19fed ganrif ar golofn 50 troedfedd ac
mewn gerddi coffa yn Stryd y Dyffryn, ac y mae’r rhain yn derbyn adnewyddiad ar
hyn o bryd.
Mae llyfrgell Dinbych yn cynnig cyfleusterau gwych mewn adeilad a oedd unwaith
yn Neuadd y Sir ac sydd yn dyddio o’r 16eg ganrif . Heddiw ceir yno llyfrau a
chyfrifiaduron lu, ac oriel ar gyfer arddangosfeydd celf sylweddol. Yng ngwanwyn
2005 yr oedd yr adeilad yn ganolbwynt ar gyfer prosiect newydd cymunedol tri mis
BBC Cymru a sicrhaodd bod Dinbych a’u hardaloedd cyfagos yn derbyn sylw
effeithiol iawn.
Mae’r cyngor tref wedi ei ymrwymo i wella safonau bywyd pob un o’i drigolion.
Mae’r cyngor tref yn cydnabod ei ddyletswydd i fod yn atebol i anghenion pawb sydd yn byw ac yn gweithio yn y dref ac i wneud hynny mewn modd fyddai’n parchu hunaniaeth ddiwylliannol a chydraddoled cyfleoedd.
Bydd y cyngor tref yn gweithio mewn partneriaeth a phob corff, un ai yn statudol, cyhoeddus, gwirfoddorol neu gymunedol er mwyn gwella safonau bywyd a lles ei gymuned ac i hyrwyddo y dref mewn modd gweithgar a phositif.
Daeth Cyngor Tref Dinbych i fodolaeth ar y 1af o Ebrill 1974. Mae 15 o gynghorwyr, yn cynrychioli tair ward y dref, sef y Ward Uchaf, Canol ac Isaf, yn ffurfio gwneuthuriad y cyngor tref presennol.
Mae 5 cynghorydd yn cynrychioli’r Ward Uchaf, 3 y Ward Ganol a 7 y Ward Isaf. Etholwyd 5 o Gynghorwyr Sir i gynrychioli Dinbych ar Gyngor Sir Ddinbych – 2 ar gyfer y Ward Uchaf (gan gynnwys Cymuned Henllan), 1 ar gyfer y Ward Ganol a 2 ar gyfer y Ward Isaf. Mae dau o’r Cynghorwyr Sir hefyd yn aelodau o’r Cyngor Tref.
Siambr y Cyngor, sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref, yw man cyfarfod y cyngor dwywaith y mis ag eithrio mis Awst. Yn ychwanegol bydd nifer o is bwyllgorau yn cyfarfod fel bo’r angen. Gweinyddir y Cyngor Tref gan Glerc y Dref, sydd hefyd yn Swyddog Cyllid, gyda swyddfa wedi ei lleoli hefyd yn Neuadd y Dref.
Top ^

Cyngor Tref Dinbych