Hanes o Dinbych
| Mae Dinbych (sy’n golygu,
‘caer fechan’) yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Daw
tarddiad enw Dinbych o’r gair ‘din’, sef bryn caerog a’r
bachigyn ‘bach’ sy’n uno yn y Gymraeg i ffurfio ‘Dinbych’. Sonnir am y dre mewn dogfennau yn y blynyddoedd yn dilyn Concwest y Normaniaid pan ddaeth yn dre ar y ffin, i warchod y ddynesfa at Fryniau Hiraethog ac Eryri. Mae’n debyg mai Dinbych oedd lleoliad aneddiad caerog yn ystod meddaniaeth y Rhufeiniaid yn y ddeuddegfed ganrif.Yma fu pencadlys Dafydd ap Gruffydd, brawd Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Yn dilyn Concwest y Normaniaid ym 1282 rhoddwyd Arglwyddiaeth Dinbych i Henry de Lacy, a awdurdodwyd adeiladu Castell Dinbych. Rhoddwyd y Siarter gyntaf i’r dre gan Gwnstabl y Castell yn ystod teyrnasiad Edward I a chafwyd nifer ar ôl hyn drwy’r blynyddoedd.Parhaodd Dinbych yn Fwrdeistref tan newidiadau Llywodraeth leol 1974. Datblygodd y dre ganoloesol law yn llaw ac adeiladu’r castell, a’i chynnwys o fewn muriau’r dref. Dros y canrifoedd canlynol bu cystadlu ffyrnig am Ddinbych rhwng y Cymry a’r Saeson, ac yn 1563 rhoddwyd y Castell ac Arglwyddiaeth Dinbych i ffefryn y Frenhines Elisabeth, sef Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a gafodd ei enwi fel Llywodraethwr Cyffredin Gogledd Cymru. Efe oedd yn gyfrifol am gomisiynu Neuadd y Sir sydd erbyn hyn yn gartref i Lyfrgell y Dref. |
![]() |
Yn 1643 Dinbych oedd man lloches i
warchodlu o Frenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng Siarl I a Phengryniaid
Cromwell, ond bu rhaid ildio yn 1646. Ar ôl hynny dirywiodd y castell a muriau’r
dre nes iddynt droi’n adfeilion. Roedd y trefwyr ers amser wedi gadael eu
caer-fwrdeistref ac wedi symud i sefyllfaoedd mwy cartrefol y tu allan i
furiau’r dre. Ymhlith y mwyaf a’r cyfoethocaf o drefi Cymru yn oes Elisabeth yr
oedd Dinbych yn ganolfan gref o ddiwylliant dadeni a menter, a ffynnodd fel tref
farchnad lwyddiannus. Ar ddechrau’r 17eg Ganrif, datblygodd y dre yn ganolfan ar
gyfer nifer o grefftau a bu iddynt barhau tan ddyfodiad yr oes ddiwydiannol yn y
19eg Ganrif. Ym 1848 agorwyd Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru ger Dinbych, ac yno yr
oedd hyd at 1500 o gleifion yn derbyn gofal. Yr oedd nifer o drigolion y dref yn
gweithio yno tan 1995 pan gaewyd y safle a’i werthu i gwmni preifat sydd ar fin
datblygu’r safle. Erbyn y 1860au Dinbych oedd canolfan bennaf Dyffryn Clwyd ac
roedd ar rwydwaith y rheilffordd.
Cymry Blaengar Dinbych
Dinbych oedd man geni nifer o Gymry blaengar – gosodwyd plac
yn y dre ym mis Mai 2001 gan y Cyngor Tref i’w coffau. Yn ystod oes y Tuduriaid
a’r Stiwartiaid roedd Wmffre Llwyd roedd yn gysylltiedig â Orteliws y daearyddwr
o’r Iseldiroedd; lluniodd y map cyntaf o Gymru mewn argraffiad;Richard Clough a
sefydlodd y Gyfnewidfa Frenhinol gyda Thomas Gresham; Huw Myddleton a greodd yr
Afon Newydd i sicrhau bod dŵr yn cyrraedd Llundain, a’i frawd Thomas, sylfaenydd
teyrnlin Castell y Waun a gyllidodd yr argraffiad cyntaf o’r Beibl Cymraeg
cludadwy; yn olaf Huw Holland y bardd fu’n gysylltiedig â Shakespeare.
Yn y 18fed ganrif ymddangosodd sawl un nodedig fel Thomas
Edwards yr awdur (Twm o’r Nant); Thomas Jones y bardd ac awdur a fu, ar y cyd â
Thomas Charles, yn arweinydd o’r gwrthgiliad Calfinistaidd oddi wrth yr Eglwys
Sefydledig; Edward Jones yr emynwr (Maes y Plwm) a John Parry,sef ‘Bardd Alaw’,
y cyfansoddwr ac offerynnwr blaenllaw.
Yn fwy diweddar ceir David Griffiths (Clwydfardd),
Archdderwydd cynta’r Orsedd, William Williams (Caledfryn) ein bardd a’n beirniad
Eisteddfodol o fry; John Williams (Glanmor), hanesydd ; Thomas Gee a fu’n
sbarduno a datblygu trafodaethau gwleidyddol Cymru fesul Gwasg Gee; Henry Morton
Stanley,fforiwr pennaf yr Affrig a ddaeth o hyd i David Livingstone yn Ujiji;
David Erwyd Jenkins, awdur gwaith tair cyfrol ar fywyd Thomas Charles; y Barnwr
Artemus Jones, arloeswr cydnabyddiaeth o’r Gymraeg mewn Llysoedd Barn; T Gwynn
Jones, blaenor ein llenorion Cymreig; Kate Roberts, awdur nofelau; Gwilym R
Jones, Mathonwy Hughes a Dafydd Owen, sydd oll wedi derbyn prif wobrau’r
Eisteddfod Genedlaethol; Yr Arglwydd Emlyn Hooson, arweinydd treial y
Llofruddwyr ‘Moors’, ac Osian Ellis a oedd yn dwyn y teitl ‘Telynor Brenhinol’ o
1959

Cyngor Tref Dinbych