Croeso

Dinbych – Lle Gwych Ar Gyfer Ymwelwyr
Mae Dinbych yn dref marchnad hanesyddol a chyfeillgar yng nghanol Dyffryn Clwyd,
mewn ardal o harddwch naturiol arbennig.Ceir yma adeiladau trawiadol hynafol a’r
enwocaf yw Castell Dinbych. Adeiladwyd y Castell ym 1282, ac o’i safle cewch
fwynhau golygfeydd arbennig o fynyddoedd Dyffryn Clwyd. Mae’r porthdy enfawr a’r
arddangosfa sydd ar y safle yn cael eu gwarchod gan Cadw, corff cadwraeth
adeiladau Cymru, a’c mae’n fan ymweld poblogaidd.
Muriau a Llwybrau
Mae Muriau’r Dref o ddiddordeb mawr, a cheir prosiect newydd sef ‘Muriau a
Llwybrau’ sy’n pontio rhwng safle’r dref a’r ardal gastell a’u muriau. Bu’r
muriau yma yn dal lluoedd Oliver Cromwell yn ôl yn ystod y Rhyfel Cartref. Os am
gerdded y Muriau, cewch fenthyg yr agoriadau wrth ofyn yn y Llyfrgell yng
nghanol Dinbych, ac yna cewch fwynhau profiad bythgofiadwy!
Mae Porth Burgess yn brif fynedfa i’r hen dref gyda’u dau dŵr sydd bellach ar
sêl ddinesig Dinbych. Adeilad arall werth ei gweld yw Eglwys Caerlŷr , ac er nad
yw’n gwbl orffenedig, adeiladwyd gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, cariad
honedig Brenhines Elisabeth y Cyntaf.
Adeiladau Hardd
Mae’r Cynllun Treftadaeth Trefol wedi adfer nifer o adeiladau lleol yn wych, ac
y
mae nifer ohonynt ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein penwythnosau treftadaeth.
Ymhlith y rhain ceir hen farchnad ymenyn, tŷ brodorol Carmelaidd, Gwesty’r
‘Bull’, tŷ Tuduraidd Bron y Ffynnon, dwy eglwys, sef Santes Fair a Santes
Marchell. Ceir hefyd capeli, megis Capel Mawr, Capel Pendref a Chapel Lôn
Swan.Cofiwn y meddyg Dr Evan Pierce o’r 19fed ganrif ar golofn 50 troedfedd ac
mewn gerddi coffa yn Stryd y Dyffryn, ac y mae’r rhain yn derbyn adnewyddiad ar
hyn o bryd.
Mae llyfrgell Dinbych yn cynnig cyfleusterau gwych mewn adeilad a oedd unwaith
yn Neuadd y Sir ac sydd yn dyddio o’r 16eg ganrif . Heddiw ceir yno llyfrau a
chyfrifiaduron lu, ac oriel ar gyfer arddangosfeydd celf sylweddol. Yng ngwanwyn
2005 yr oedd yr adeilad yn ganolbwynt ar gyfer prosiect newydd cymunedol tri mis
BBC Cymru a sicrhaodd bod Dinbych a’u hardaloedd cyfagos yn derbyn sylw
effeithiol iawn.
Rhywbeth i bawb
Os ydych yn chwilio am hanes anhygoel, golygfeydd a llwybrau cerdded hardd, neu
siopa a bwyta da, mae Dinbych yn medru cynnig rhywbeth i chi. Yma ceir ystod
eang o glybiau a chymdeithasau, cyfleusterau chwaraeon a digwyddiadau blynyddol
sy’n cynnig diwylliant, hamdden ac adloniant. Ceir yma hefyd ysgolion a choleg,
ysbyty bychan, a siopau o bob math i’ch denu. Mae ein pentrefi hardd cyfagos yn
denu ymwelwyr, ac mae ein hardal yn cynnig rhywbeth i bawb, boed yn drigolion
neu’n ymwelwyr, beth bynnag yw’r adeg o’r flwyddyn.

Cyngor Tref Dinbych