Mannau Diddorol

Llefydd o ddiddordeb
Ceir nifer o lefydd diddorol o fewn cyrraedd tref
Dinbych, gan gynnwys Neuadd Gwaenynog yn yr ardal gyfagos, a oedd yn
fan ymweld ar gyfer yr enwog Dr Johnson ac sydd â chofeb iddo ar dir
yr ystad. Daeth Beatrix Potter yma hefyd, ac mae ei gardd hi yn
bodoli o hyd.
Tua milltir ar hyd Ffordd Henllan ceir adfeilion
Hen Foxhall a adeiladwyd gan John Panton, sef cofrestrydd Dinbych yn
oes Elisabeth. Gerbron ceir Foxhall Newydd, man genedigaeth Humphrey
Llwyd lluniwr mapiau. Mae gan bentref Henllan eglwys unigryw gyda’i
thŵr ar wahân o gorff yr Eglwys.Ymhellach o Henllan ceir Llansannan,
canolbwynt ardal mawrion llenyddol megis William Salesbury, Tudur
Aled a William Rees (Gwilym Hiraethog).Mae pentref Nantglyn, 4
milltir i orllewin y dref wedi derbyn sawl gwobr am ei ddelwedd
hardd, ac yma trigodd Dr Williams Owen Pughe yr hynafieithydd,
Robert Davies (Bardd Nantglyn) a David Samwell, sef y meddyg ar long
y ‘Discovery’ a wnaeth dystio llofruddiaeth Capten Cook ac yna
cofnodi’r digwyddiad.Ger heol yr A543 yw ardal y Brenig , sef llyn
‘gwneud’ mewn coedwig o 2,500 erw sydd hefyd yn cynnig
gweithgareddau dwr megis pysgota a hwylio cychod bach.
I’r gogledd o Ddinbych ceir dinas fechan
Llanelwy, ac ar safle’r Eglwys Gadeiriol yno y mae cofeb i’r Esgob William
Morgan a oedd yn bennol gyfrifol am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg . Yma ym mis
Medi, cynhelir yr ŵyl Gerdd hynod boblogaidd.
O fewn pellter byr ar hyd yr A55 ceir Castell Bodelwyddan
sy’n cynnwys Oriel Darluniau, ac yn agos i hyn ceir Castell Rhuddlan, sydd
gyda’r rheini yn Ninbych a Rhuthun yn amlwg yn Nyffryn Clwyd yn dilyn Concwest y
Normaniaid. Rhwng Llanelwy a Bodfari y mae’r pentref tlws o Dremeirchion gyda’i
heglwys yn enw Corpws Cristi sy’n gartref i’r enwog Feibl Finegr. Gerbron ceir
Bryn Bella, sef cartref yr enwog Hester Thrale (Mrs Piozzi).
I’r de o Ddinbych y mae pentref Llanrhaeadr ble, yn Eglwys
Sant Dyfnog , sydd ag iddi ffurf dau-gorff fel sy’n draddodiadol yn Nyffryn
Clwyd, y mae’r ffenestr Jesse hynod. Yn y fynwent y mae bedd Ann Parry,
Methodist a gafodd dröedigaeth yn y 18fed ganrif , ac yr oedd ei chorff wedi ei
gadw yn berffaith 50 mlynedd yn dilyn ei chladdu.Ymhellach i fyny’r dyffryn ceir
tref Rhuthun gyda’i Chanolfan Grefftau a’r Hen Garchar lle ceir archifdy’r
Sir.Yng nghanol mynyddoedd Clwyd yn edrych dros y Dyffryn ceir Moel Famau, sydd
ag adfail Tŵr y Jiwbilî ar ei chopa. Cafodd ei adeiladu fel dathliad i’r Brenin
George III ar gyrraedd 60 mlynedd ar ei orseddfainc.

Cyngor Tref Dinbych