Ein Datganiad

Mae’r cyngor tref wedi ei ymrwymo i wella
safonau bywyd pob un o’i drigolion.
Mae’r cyngor tref yn cydnabod ei ddyletswydd i fod yn atebol
i anghenion pawb sydd yn byw ac yn gweithio yn y dref ac i wneud hynny mewn modd
fyddai’n parchu hunaniaeth ddiwylliannol a chydraddoled cyfleoedd.
Bydd y cyngor tref yn gweithio mewn partneriaeth a phob
corff, un ai yn statudol, cyhoeddus, gwirfoddorol neu gymunedol er mwyn gwella
safonau bywyd a lles ei gymuned ac i hyrwyddo y dref mewn modd gweithgar a
phositif.
Daeth Cyngor Tref Dinbych i fodolaeth ar y 1af o Ebrill
1974. Mae 15 o gynghorwyr, yn cynrychioli tair ward y dref, sef y Ward Uchaf,
Canol ac Isaf, yn ffurfio gwneuthuriad y cyngor tref presennol.
Mae 5 cynghorydd yn cynrychioli’r Ward Uchaf, 3 y Ward Ganol
a 7 y Ward Isaf. Etholwyd 5 o Gynghorwyr Sir i gynrychioli Dinbych ar Gyngor Sir
Ddinbych – 2 ar gyfer y Ward Uchaf (gan gynnwys Cymuned Henllan), 1 ar gyfer y
Ward Ganol a 2 ar gyfer y Ward Isaf. Mae dau o’r Cynghorwyr Sir hefyd yn aelodau
o’r Cyngor Tref.
Siambr y Cyngor, sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref, yw
man cyfarfod y cyngor dwywaith y mis ag eithrio mis Awst. Yn ychwanegol bydd
nifer o is bwyllgorau yn cyfarfod fel bo’r angen. Gweinyddir y Cyngor Tref gan
Glerc y Dref, sydd hefyd yn Swyddog Cyllid, gyda swyddfa wedi ei lleoli hefyd yn
Neuadd y Dref.
EinI rhif cyswllt yw: 01745 815984
Top ^

Cyngor Tref Dinbych