Cyngor Tref Dinbych

Digwyddiadur/Newyddion Diweddaraf

 
Newyddion Diweddaraf

 

Mae Cyngor Tref Dinbych yn ystyried prynu cyn adeilad Llys yr Ynadon ar Lôn Goch, Dinbych.  Y prif fwriad fydd i ddefnyddio’r adeilad ar gyfer Amgueddfa Dinbych a hefyd y posibilrwydd o’i ddefnyddio ar gyfer defnydd y gymuned a’r potensial o unedau busnes cychwynnol.

Dymuna’r cyngor tref glywed barn y trigolion er mwyn cynorthwyo meidryddu barn gyhoeddus cyn gwneud penderfyniad.

Bydd holiadur ar gael i’w gwblhau yn Llyfrgell Dinbych o’r 17eg hyd at y 26ain o Ebrill 2013 fydd yn gofyn cwestiynau allweddol ynglŷn â  defnydd a’r gost i bob cartref yn Ninbych.

Galwch i mewn a chwblhau’r holiadur er mwyn i’r cyngor tref wneud penderfyniad gwybodus.

 

CADW 

Darlithoedd Cyhoeddus Dinbych - Hydref/Gaeaf 2011/12

Mae’n hyfrydwch gan Gyngor Tref Dinbych gyflwyno cyfres newydd o ddarlithoedd gan arbenigwyr cydnabyddedig yn ystod Hydref / Gaeaf 2011.  Fel y gyfres gyntaf boblogaidd yn 2009 bydd y darlithoedd yn ymdrin â nifer o agweddau pwysig o hanes Dinbych a’r cyffiniau.  Bydd y pynciau, fel ag o’r blaen, yn ymdrin ag amrediad dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf ac yn diweddu gyda mewnwelediad i adeiladau hanesyddol Tref Dinbych. Er bydd peth o’r cyd-destunau hanesyddol ehangach yn gyfarwydd i’r rhai a fynychodd y gyfres gyntaf, bydd y darlithoedd yma yn hollol newydd ac yn cynnig persbectifau newydd a gwybodaeth newydd. Clicwch yma am boster

 

Y Gymuned Dinbych Grŵp Archif gwefan bwrpasol wedi mynd yn awr yn byw  – www.denbighcommunityarchive.org.

Digwyddiadur

I ddarganfod beth sydd ymlaen yn Sir Dinbych, clicwch ar wefan y Cyngor Sir

            http://www.denbighshire.gov.uk/whatson/
 

neu fel arall y we "Visit Denbigh"

            http://www.visitdenbigh.co.uk/

 

 

 

 

 

 

Top ^