Croeso i wefan Cyngor Tref Dinbych
Mae Cyngor Tref Dinbych yn darparu nifer o wasanaethau ar gyfer trigolion y dref, yn cefnogi cymdeithasau lleol, yn cefnogi a hyrwyddo digwyddiadau ac yn gofalu am nifer o safleoedd yn y dre.
Am fwy o fanylion am y Cyngor ewch i Y Cyngor-Amdanom Ni. Yn adran Y Cyngor hefyd mae manylion am y Cynghorwyr, dyddiadau cyfarfodydd a'n polisiau.
Dinbych – Lle Gwych Ar Gyfer Ymwelwyr
Mae Dinbych yn dref marchnad hanesyddol a chyfeillgar yng nghanol Dyffryn Clwyd, mewn ardal o harddwch naturiol arbennig. Ceir yma adeiladau trawiadol hynafol a’r enwocaf yw Castell Dinbych. Mae mwy o fanylion am y Dref, ei hanes a'i hatyniadau yn yr adran Y Dref a'r Ardal.