Y Cyngor Tref
Daeth Cyngor Tref Dinbych i fodolaeth ar y 1af o Ebrill 1974 yn dilyn ad-drefniant llywodraeth leol. O flaen hyn, roedd gan tref Dinbych ei awdurdod leol ei hyn – Cyngor Bwrdeistref Dinbych gyda 16 o gynghorwyr yn cael eu harwain gan Faer a 3 Henadur. Ffurfiwyd y Cyngor Bwrdeistref ar y 1af o Ionawr 1836.
Mae gan y Cyngor Tref presennol 15 o gynghorwyr yn cynrychioli tair ward y dref: Uchaf, Canol ac Isaf. Mae 5 o gynghorwyr yn cynrychioli’r Ward Uchaf, 3 y Ward Ganol a 7 y Ward Isaf. Yn ôl Cyfrifiad 2011, 9,876 yw poblogaeth Dinbych wedi ei rannu rhwng y wardiau fel a ganlyn:
Uchaf - 3,150
Canol – 2,087
Isaf - 4,639
Etholwyd pump o gynghorwyr sir i gynrychioli Dinbych ar Gyngor Sir Ddinbych – 2 ar gyfer y Ward Uchaf (gan gynnwys Cymuned Henllan), 1 ar gyfer y Ward Ganol a 2 ar gyfer y ward Isaf. Mae 2 o’r cynghorwyr sir hefyd yn aelodau o’r Cyngor Tref.
Gweinyddir y Cyngor Tref gan Glerc y Dref, sydd hefyd yn Swyddog Cyllid, gyda swyddfa wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref. Yn 2018 penodwyd cynorthwyydd i gynorthwyo gyda digwyddiadau a rhoi cymorth cyffredinol i'r Clerc
Ein Datganiad
Mae’r cyngor tref wedi ei ymrwymo i wella safonau bywyd pob un o’i drigolion.
Mae’r cyngor tref yn cydnabod ei ddyletswydd i fod yn atebol i anghenion pawb sydd yn byw ac yn gweithio yn y dref ac i wneud hynny mewn modd fyddai’n parchu hunaniaeth ddiwylliannol a chydraddoled cyfleoedd.
Bydd y cyngor tref yn gweithio mewn partneriaeth a phob corff, un ai yn statudol, cyhoeddus, gwirfoddol neu gymunedol er mwyn gwella safonau bywyd a lles ei gymuned ac i hyrwyddo y dref mewn modd gweithgar a phositif.
Siambr y Cyngor, sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref, yw man cyfarfod y cyngor dwywaith y mis ag eithrio mis Awst. Yn ychwanegol bydd nifer o is bwyllgorau yn cyfarfod fel bo’r angen. Gweinyddir y Cyngor Tref gan Glerc y Dref, sydd hefyd yn Swyddog Cyllid, gyda swyddfa wedi ei lleoli hefyd yn Neuadd y Dref.