Mae gwefan Cyngor Tref Dinbych yn defnyddio cod HTML dilys ac arddulliau CSS. Rydym yn anelu at wneud ein gwefan mor hygyrch â phosib i bawb ac i fod yn gydymffurfio â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe y W3C WAI (WCAG) 2.1 “AA”. Mae dyluniad y wefan yn ymatebol ac mae cynllun ein tudalennau gwe yn newid yn dibynnu os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur, llechen electronig neu ffôn symudol.
Porwr gwe
Er diogelwch a chytunedd, rydym ni’n awgrymu eich bod chi’n diweddaru eich system weithredu a’ch porwr gwe yn rheolaidd. Gallwch dderbyn gwybodaeth am ddiweddaru porwyr gwe yn https://www.whatismybrowser.com
Cymraeg clir
Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn Cymraeg Clir ac yn osgoi jargon lle bo modd. Os nad ydych chi'n deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.
Newid gosodiadau
Mae botymau i chi newid y cyferbynnedd ar eich sgrîn yn ôl eich anghenion ac i newid maint y ffont.
Gallwch hefyd newid gosodiadau eich porwr gwe neu’ch dyfais i wella’ch profiad yn unol â’ch anghenion a’ch dewisiadau. Mae gwefan AbilityNet yn cynnig cymorth a chanllawiau ar gyfer y canlynol:
- newid maint y testun
- chwyddo’r sgrin
- newid lliwiau
- gwneud eich llygoden yn haws i’w defnyddio
- defnyddio’r bysellfwrdd i lywio o gwmpas y safle
- siarad efo'ch dyfais
- gwneud i’ch dyfais siarad efo chi
Dogfennau
Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau y gallwch chi eu lawrlwytho ar ein safle ar ffurf dogfen gludadwy (PDF-A). Bydd llawer o borwyr gwe yn agor y dogfennau hyn yn awtomatig ond mae modd i chi hefyd lawrlwytho meddalwedd darllen Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim.
Cyswllt
Os hoffech gynnig sylwadau ar hygyrchedd y safle neu adrodd unrhyw problemau technegol , gallwch anfon eich sylwadau atom drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.