Cyngor Tref Dinbych

Dewiswch eich iaith

  • Tref Dinbych gyda Chastell Dinbych a Bryniau Clwyd yn y cefndir

    Hyrwyddo'r Dref a'r Ardal

  • Gêm Clwb Pêl-droed Dinbych

    Cefnogi Clybiau Lleol

  • Noson cynnau goleuadau nadolig yn sgwâr y dref

    Hyrwyddo a Chefnogi Digwyddiadau

Cymorthdaliadau i Gymdeithasau

Darllenwch y canlynol yn ofalus cyn cwblhau’r ffurflen gais

Ni ddylid cyflwyno unrhyw gais heb ddogfennau ategol

 

1.         Yn gyffredinol, caniateir cymorthdaliadau i fudiadau gwirfoddol nad ydynt yn gwneud elw ac a leolir oddi mewn i ffiniau Cyngor                  Tref Dinbych.

            Ni fydd grantiau'n cael eu hystyried oni bai eu bod yn cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei nodau sef:

  • Gwella lles cymunedol ac unigol trwy weithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden.
  • Hyrwyddo cyfranogiad a phartneriaeth i gyflawni datblygiad ysbryd cymunedol cryf yn Dinbych.
  • Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i wella lles preswylwyr.
  • Hyrwyddo'r dref, ei sefydliadau a'i phobl.

            Bydd y meini prawf ar gyfer dyfarnu grantiau yn rheolaidd yn cael eu hadolygu o'r canlynol:

  • Cwrdd ag nodau y cyngor tref.
  • Mae manteision gwirioneddol i'r Grwpiau Cymunedol neu’r Gymuned.
  • Mae peth o'r cyllid yn cael ei dalu o ffynonellau eraill.
  • Gall derbynnydd y cymorth ddangos gweithio mewn partneriaeth, hy prosiectau sy'n cefnogi grwpiau difreintiedig yn y gymuned.
  • Mae'r buddion yn ddiriaethol fel y gallai'r Cyngor werthuso canlyniadau, os yw'n penderfynu fel rhan o archwiliad neu adolygiad gwerth gorau.
  • Mae'r budd yn fwy na thymor byr yn unig.
  • Ar gyfercymorth cychwyn, bydd angen copi o'r cyfansoddiad.

2.         Serch hynny, mae gan y cyngor yr hawl, mewn amgylchiadau arbennig, i ystyried cymdeithasau sydd oddi allan i’r dref os allant                ddangos y bydd y cymhorthdal, y gwnaed y cais amdano, o fantais i bobl Dinbych yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol.

3.         Yn unol ag Adran 137 0 Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fe all unigolion preifat gael eu hystyried am gefnogaeth ariannol.

4.         Rhaid i gais am grantiau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio’r ffurflen gais am y flwyddyn ariannol cywir, ynghyd a chopi o’r                    fantolen ariannol briodol a/neu ddatganiad o’r cyfrifon. Mae'n ofynnol i gael 3 dyfynbris ar gyfer eitemau penodol. Rhaid i                          geisiadau gael eu cyflwyno heb fod yn hwyrach na 1af o'r mis y bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod Amgylchedd a Chyllid.              Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y 1af yn cael ei ohurio tan y mis nesaf. Gellir gohirio ceisiadau os na dderbynnir                        gwybodaeth ddigonol. (Bydd angen caniatáu 2 fis cyn digwyddiad.)

            Ni ddylid cyflwyno unrhyw gais heb y dogfennau priodol yn cefnogi

5.         Dylai ymgeiswyr nodi na ystyrir cymorthdaliadau ac eithrio rhai ar gyfer prosiect neu brosiectau penodol y bwriada’r                                   gymdeithas  ymgymryd â nhw.

6.         Er mwyn sicrhau fod digon o arian ar gael i ariannu pob cais a dderbynnir am gymorthdaliadau yn ystod y flwyddyn ariannol                      bresennol, mae’r cyngor tref wedi amodi i osod uchafswm o £1,000 ar bob cais. O dan amgylchiadau penodol ac os oes angen,                gellir ceisio gwybodaeth ychwanegol, gallwn ystyried grantiau sy'n fwy na'r uchafswm o £1,000. Bydd y Cyngor Tref yn caniatáu                hyd at 80% o gyfanswm cost y digwyddiad neu weithgaredd. Mae'n fanteisiol i'r cais os fod ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i                  godi arian i gynorthwyo gyda'r cyllid sydd ei angen.

          Os yw'r cais am £1,000.00 neu fwy, bydd gofyn i'r ymgeisydd neu aelodau'r grŵp fynychu cyfarfod perthnasol y Pwyllgor i ateb                  cwestiynau manwl.

          Am gymorth dros £1,000.00, gellir gwahodd sefydliadau sy'n llwyddiannus yn eu cais am gymorth i fynychu seremoni gyflwyno at              ddibenion cyhoeddusrwydd.

          Rhaid cydnabod y cymorth a ddyfarnwyd gan Gyngor Tref Dinbych mewn unrhyw gyhoeddusrwydd gyda logo'r cyngor tref wedi'i              gynnwys ar yr holl ddeunydd hyrwyddo.

7.         O dan ddarpariaeth A.137 os bydd unrhyw grantiau a ganiateir gan Gyngor Tref Dinbych dros £250 bydd rhaid i’r ymgeiswyr                    gyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar sut y gwariwyd yr arian. Bydd rhaid gyrru’r adroddiad i Gyngor Tref Dinbych o fewn 6 mis ar                ôl cwblhau’r digwyddiad/ prosiect. - bydd modd i’r adroddiad fod ar ffurf adroddiad blynyddol neu gyfrifon bydd yn nodi’n glir                      modd y gwariant. Gall methu â chyflwyno'r adroddiad neu set o gyfrifon gael effaith ar geisiadau yn y dyfodol.

8.         Ni fydd unrhyw geisiadau yn cael eu hawdurdodi ym mis Awst.

9.         Sylwch na fydd y Cyngor fel arfer yn ystyried ad-daliad am ddigwyddiadau/gweithgareddau/ eitemau sydd eisoes wedi                              digwydd/prynu oni bai ei fod wedi'i drafod ymlaen llaw.

10.       Os yw'n briodol, gall y Cyngor ei gwneud yn ofynnol i benodi aelod o'r Cyngor Tref i'r sefydliad sy’n gofyn am gymorth ariannol.

11.       Rhoddir unrhyw gymorth ariannol ar y ddealltwriaeth bod eich sefydliad yn cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol ar                                      Gydraddoldebau, Amrywiaeth a Gwahaniaethu anghyfreithlon.

12.       Daw grantiau cymunedol o gronfeydd trethdalwyr. Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â Grantiau Cymunedol wedi'u dirprwyo i'r              Pwyllgor Cyllid.



    pdfFfurflen Gais Cymorthdal

Hygyrchedd

Mae gwefan Cyngor Tref Dinbych yn defnyddio cod HTML dilys ac arddulliau CSS. Rydym yn anelu at wneud ein gwefan mor hygyrch â phosib i bawb ac rydym wedi’ dylunio’r wefan i gydsynio gydag arweiniad a gofynion y Llywodraeth ac i gyrraedd safonau’r WAI (Web Accessibility Initiative) ar raddfa “AA”. Mae dyluniad y safle yn ymatebol ac mae cynllun ein tudalennau gwe yn newid yn dibynnu ar a ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur, llechen electronig neu ffôn symudol.

Ein Datganiad Hygyrchedd

Cysylltu a ni

 Jenny Barlow
 Clerc y Dref a Swyddog Cyllid
 Cyngor Tref Dinbych
 Neuadd y Dre
 Lôn Crown
 DINBYCH
 Sir Ddinbych

 01745 815984

 townclerk@denbightowncouncil.gov.uk