Cyngor Tref Dinbych

Dewiswch eich iaith

  • Tref Dinbych gyda Chastell Dinbych a Bryniau Clwyd yn y cefndir

    Hyrwyddo'r Dref a'r Ardal

  • Gêm Clwb Pêl-droed Dinbych

    Cefnogi Clybiau Lleol

  • Noson cynnau goleuadau nadolig yn sgwâr y dref

    Hyrwyddo a Chefnogi Digwyddiadau

CastellMae Dinbych (sy’n golygu, ‘caer fechan’) yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Daw tarddiad enw Dinbych o’r gair ‘din’, sef bryn caerog a’r bachigyn ‘bach’ sy’n uno yn y Gymraeg i ffurfio ‘Dinbych’.

Sonnir am y dre mewn dogfennau yn y blynyddoedd yn dilyn Concwest y Normaniaid pan ddaeth yn dre ar y ffin, i warchod y fynedfa i Fryniau Hiraethog ac Eryri. Mae’n debyg fod aneddiad caerog yn Ninbych yn ystod meddaniaeth y Rhufeiniaid yn y ddeuddegfed ganrif. Yma fu pencadlys Dafydd ap Gruffydd, brawd Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Yn dilyn Concwest y Normaniaid ym 1282 rhoddwyd Arglwyddiaeth Dinbych i Henry de Lacy, a awdurdododd adeiladu Castell Dinbych. Rhoddwyd y Siarter gyntaf i’r dre gan Gwnstabl y Castell yn ystod teyrnasiad Edward I a chafwyd nifer ar ôl hyn drwy’r blynyddoedd. Parhaodd Dinbych yn Fwrdeistref tan newidiadau Llywodraeth leol 1974.
 
Datblygodd y dre ganoloesol law yn llaw ac adeiladu’r castell, a’i chynnwys o fewn muriau’r dref. Dros y canrifoedd canlynol bu cystadlu ffyrnig am Ddinbych rhwng y Cymry a’r Saeson, ac yn 1563 rhoddwyd y Castell ac Arglwyddiaeth Dinbych i ffefryn y Frenhines Elisabeth, sef Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a’i wnaeth, i bob pwrpas, yn Lywodraethwr Cyffredinol Gogledd Cymru. Fo oedd yn gyfrifol am gomisiynu Neuadd y Sir sydd erbyn hyn yn gartref i Lyfrgell y Dref.

Yn 1643 Dinbych oedd man lloches gwarchodlu o Frenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng Siarl I a Phengrynwyr Cromwell, ond bu rhaid ildio yn 1646. Ar ôl hynny dirywiodd y castell a muriau’r dre nes iddynt droi’n adfeilion. Roedd pobl y dref wedi gadael eu caer-fwrdeistref, ers amser, ac wedi symud i leoliadau mwy cartrefol y tu allan i furiau’r dre. Roedd Dinbych ymhlith y mwyaf a’r cyfoethocaf o drefi Cymru yn oes Elisabeth ac yn ganolfan gref o ddiwylliant dadeni a menter. Ffynnodd fel tref farchnad lwyddiannus. Ar ddechrau’r 17eg Ganrif, datblygodd y dre yn ganolfan ar gyfer nifer o grefftau a bu iddynt barhau tan ddyfodiad yr oes ddiwydiannol yn y 19eg Ganrif. Ym 1848 agorwyd Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru ger Dinbych, ac yno yr oedd hyd at 1500 o gleifion yn derbyn gofal. Roedd nifer o drigolion y dref yn gweithio yno tan 1995 pan gaewyd y safle a’i werthu i gwmni preifat sydd ar fin datblygu’r safle. Erbyn y 1860au Dinbych oedd canolfan bennaf Dyffryn Clwyd ac roedd ar rwydwaith y rheilffordd.

Cymry Blaengar Dinbych

Dinbych oedd man geni nifer o Gymry blaengar – gosodwyd plac yn y dre ym mis Mai 2001 gan y Cyngor Tref i’w coffau.
Yn ystod oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid ganwyd nifer o Gymry o bwys yma: Wmffre Llwyd (oedd yn gysylltiedig â Orteliws, y daearyddwr o’r Iseldiroedd) a luniodd y map cyntaf o Gymru wedi ei argraffu; Rhisiart Clwch a sefydlodd y Gyfnewidfa Frenhinol gyda Thomas Gresham; Huw Myddleton a greodd yr Afon Newydd i sicrhau bod dŵr yn cyrraedd Llundain, a’i frawd Thomas, sylfaenydd teyrnlin Castell y Waun a gyllidodd yr argraffiad cyntaf o’r Beibl Cymraeg cludadwy; yn olaf Huw Holland y bardd fu’n gysylltiedig â Shakespeare.
 
Yn y 18fed ganrif ymddangosodd sawl un nodedig fel Thomas Edwards yr awdur (Twm o’r Nant); Thomas Jones y bardd ac awdur a fu, ar y cyd â Thomas Charles, yn arweinydd y gwrthgiliad Calfinistaidd oddi wrth yr Eglwys Sefydledig; Edward Jones yr emynwr (Maes y Plwm) a John Parry sef ‘Bardd Alaw’, y cyfansoddwr ac offerynnwr blaenllaw.
 
Yn fwy diweddar ceir David Griffiths (Clwydfardd), Archdderwydd cynta’r Orsedd, William Williams (Caledfryn) ein bardd a’n beirniad Eisteddfodol o fri; John Williams (Glanmor), hanesydd ; Thomas Gee a fu’n sbarduno a datblygu trafodaethau gwleidyddol Cymru drwy gyfrwng Gwasg Gee; Henry Morton Stanley, fforiwr pennaf yr Affrig a ddaeth o hyd i David Livingstone yn Ujiji; David Erwyd Jenkins, awdur gwaith tair cyfrol ar fywyd Thomas Charles; y Barnwr Artemus Jones, arloeswr cydnabyddiaeth o’r Gymraeg mewn Llysoedd Barn; T Gwynn Jones, blaenor ein llenorion Cymreig; Kate Roberts, awdur nofelau; Gwilym R Jones, Mathonwy Hughes a Dafydd Owen, sydd oll wedi derbyn prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol; Yr Arglwydd Emlyn Hooson, arweinydd yr amddiffyniad yn achos y Llofruddwyr ‘Moors’, ac Osian Ellis oedd yn dwyn y teitl ‘Telynor Brenhinol’ o 1959

Hygyrchedd

Mae gwefan Cyngor Tref Dinbych yn defnyddio cod HTML dilys ac arddulliau CSS. Rydym yn anelu at wneud ein gwefan mor hygyrch â phosib i bawb ac rydym wedi’ dylunio’r wefan i gydsynio gydag arweiniad a gofynion y Llywodraeth ac i gyrraedd safonau’r WAI (Web Accessibility Initiative) ar raddfa “AA”. Mae dyluniad y safle yn ymatebol ac mae cynllun ein tudalennau gwe yn newid yn dibynnu ar a ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur, llechen electronig neu ffôn symudol.

Ein Datganiad Hygyrchedd

Cysylltu a ni

 Jenny Barlow
 Clerc y Dref a Swyddog Cyllid
 Cyngor Tref Dinbych
 Neuadd y Dre
 Lôn Crown
 DINBYCH
 Sir Ddinbych

 01745 815984

 townclerk@denbightowncouncil.gov.uk