Cylch Cyfeillgarwch Trefi Caerog
Dolen y 5 tref: Biwmaris, Caernarfon, Caer, Conwy, Dinbych
Pan ddaeth y 4 tref (Caernarfon, Caer, Conwy a Dinbych) yn aelodau unigol o'r cylch yn y 1990au, daeth hi'n amlwg i bob un y byddai'n fantais i ffurfio cangen lleol o'r cylch yn ddolen rhyngom.
Trafodwyd y syniad ymhob Cyngor a daeth y potensial o'r 4 tref gaerog unigryw, yn gorwedd o fewn 60 milltir i'w gilydd, yn cyd-hyrwyddo a rhannu ymarfer da a'u gilydd ac o fewn y Cylch yn amlwg ac yn ddeniadol.
Cytunodd y pedair tref i uno a'u gilydd a ffurfio y ddolen gyntaf o'r fath yn hanes byr y Cylch. Yn 1993 cynhalwyd seremoni unigryw yng Nghastell Caernarfon. Arwyddwyd Siartr Cydweithrediad gan y pedwar Maer i gydweithio er budd y pedair cymuned. Yn 2002 unodd y pumed aelod, Biwnmaris, i wneud y ddolen yn uned gryfach eto.
Ers hynny mae'r cwlwm cryf rhwng y pum tref wedi tyfu a datblygu a mae cynrychiolwyr y ddolen yn cyfarfod bedair neu bum gwaith y flwyddyn yng Ngonwy (man canolog) i drefnu mentrau ar y cyd gan gynnwys:-
- Taflenni hyrwyddo ar y cyd yn cael eu danfon i bedwar ban byd
- Digwyddiadau diwylliannol ar y cyd e.e. cyngherddau gyda perfformwyr o'r pum tref
- Digwyddiadau chwaraeon ar y cyd e.e. Rali Hen Geir/Ceir Clasurol Flynyddol y pum tref a'r Twrnament Golff Blynyddol y pum tref
- Cydweithrediad economaidd wrth fod yn bartneriaid mewn ceisiadau am arian Ewropeaidd
- Gwith hyrwyddo y Cylch ar y cyd yn y pum tref
Cliciwch yma am daflen wybodaeth