
Castell Dinbych
Adeiladwyd y Castell ym 1282, ac o’i safle cewch fwynhau golygfeydd arbennig o fynyddoedd Dyffryn Clwyd. Mae’r porthdy enfawr a’r arddangosfa sydd ar y safle yn cael eu gwarchod gan Cadw, corff cadwraeth adeiladau Cymru, ac mae’n fan ymweld poblogaidd.
Muriau a Llwybrau
Mae Muriau’r Dref o ddiddordeb mawr, a cheir prosiect newydd sef ‘Muriau a Llwybrau’ sy’n pontio rhwng safle’r dref a’r ardal gastell a’u muriau. Bu’r muriau yma yn dal lluoedd Oliver Cromwell yn ôl yn ystod y Rhyfel Cartref. Os am gerdded y Muriau, cewch fenthyg yr agoriadau wrth ofyn yn y Llyfrgell yng nghanol Dinbych, ac yna cewch fwynhau profiad bythgofiadwy!
Mae Porth Burgess yn brif fynedfa i’r hen dref gyda’u dau dŵr sydd bellach ar sêl ddinesig Dinbych. Adeilad arall werth ei gweld yw Eglwys Caerlŷr , ac er nad yw’n gwbl orffenedig, adeiladwyd gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, cariad honedig Brenhines Elisabeth y Cyntaf.
Adeiladau Hardd
Mae’r Cynllun Treftadaeth Trefol wedi adfer nifer o adeiladau lleol yn wych, ac y mae nifer ohonynt ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein penwythnosau treftadaeth. Ymhlith y rhain ceir hen farchnad ymenyn, tŷ brodorol Carmelaidd, Gwesty’r ‘Bull’, tŷ Tuduraidd Bron y Ffynnon, dwy eglwys, sef Santes Fair a Santes Marchell. Ceir hefyd capeli, megis Capel Mawr, Capel Pendref a Chapel Lôn Swan. Cofiwn y meddyg Dr Evan Pierce o’r 19fed ganrif ar golofn 50 troedfedd ac mewn gerddi coffa yn Stryd y Dyffryn, ac y mae’r rhain yn derbyn adnewyddiad ar hyn o bryd.
Mae llyfrgell Dinbych yn cynnig cyfleusterau gwych mewn adeilad a oedd unwaith yn Neuadd y Sir ac sydd yn dyddio o’r 16eg ganrif . Heddiw ceir yno llyfrau a chyfrifiaduron lu, ac oriel ar gyfer arddangosfeydd celf sylweddol. Yng ngwanwyn 2005 yr oedd yr adeilad yn ganolbwynt ar gyfer prosiect newydd cymunedol tri mis BBC Cymru a sicrhaodd bod Dinbych a’u hardaloedd cyfagos yn derbyn sylw effeithiol iawn.
Rhywbeth i bawb
Os ydych yn chwilio am hanes anhygoel, golygfeydd a llwybrau cerdded hardd, neu siopa a bwyta da, mae Dinbych yn medru cynnig rhywbeth i chi. Yma ceir ystod eang o glybiau a chymdeithasau, cyfleusterau chwaraeon a digwyddiadau blynyddol sy’n cynnig diwylliant, hamdden ac adloniant. Ceir yma hefyd ysgolion a choleg, ysbyty bychan, a siopau o bob math i’ch denu. Mae ein pentrefi hardd cyfagos yn denu ymwelwyr, ac mae ein hardal yn cynnig rhywbeth i bawb, boed yn drigolion neu’n ymwelwyr, beth bynnag yw’r adeg o’r flwyddyn.
Yr Ardal
Ceir nifer o lefydd diddorol o fewn cyrraedd tref Dinbych Yn yr ardal gyfagos mae Neuadd Gwaenynog lle bu yr enwog Dr Johnson yn ymmweld a sydd â chofeb iddo ar dir yr ystad. Daeth Beatrix Potter yma hefyd, ac mae ei gardd hi yno o hyd.
Tua milltir ar hyd Ffordd Henllan ceir adfeilion Hen Foxhall a adeiladwyd gan John Panton, sef cofrestrydd Dinbych yn oes Elisabeth. Gerllaw cmae Foxhall Newydd, man geni Humphrey Llwyd y lluniwr mapiau. Mae gan bentref Henllan eglwys unigryw gyda’i thŵr ar wahân i gorff yr Eglwys. Tu draw i Henllan mae Llansannan, canolbwynt ardal sy'n adnabyddus am ei mawrion llenyddol megis William Salesbury, Tudur Aled a William Rees (Gwilym Hiraethog). Mae pentref Nantglyn, 4 milltir i'r gorllewin o'r dref wedi derbyn sawl gwobr am ei harddwch. Yma y trigai Dr Williams Owen Pughe yr hynafiaethydd, Robert Davies (Bardd Nantglyn) a David Samwell, sef y meddyg ar long y ‘Discovery’ a welodd lofruddiaeth Capten Cook ac yna cofnodi’r digwyddiad. Oddi ar yr A543 mae ardal y Brenig , sef llyn ‘gwneud’ mewn coedwig o 2,500 erw sydd hefyd yn cynnig gweithgareddau dŵr megis pysgota a hwylio cychod bach.
I’r gogledd o Ddinbych mae dinas fechan Llanelwy. Yno ar safle’r Eglwys Gadeiriol mae cofeb i’r Esgob William Morgan a oedd yn bennaf gyfrifol am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg . Yma, ym mis Medi, cynhelir yr Ŵyl Gerdd hynod boblogaidd.
O fewn pellter byr ar hyd yr A55 ceir Castell Bodelwyddan sy’n cynnwys Oriel Darluniau, a nid nepell mae Castell Rhuddlan oedd, gyda’r rheini yn Ninbych a Rhuthun, yn argwyddiaethu dros Ddyffryn Clwyd yn dilyn Concwest y Normaniaid. Rhwng Llanelwy a Bodfari mae pentref hardd Tremeirchion gyda’i eglwys wedi ei chysegru i Gorpus Cristi sy’n gartref i’r enwog Feibl Finegr. Gerllaw mae Bryn Bella, sef cartref yr enwog Hester Thrale (Mrs Piozzi).
I’r de o Ddinbych mae pentref Llanrhaead lle mae Eglwys Sant Dyfnog, sydd ag iddi ffurf dau-gorff fel sy’n draddodiadol yn Nyffryn Clwyd. Yno mae’r ffenestr Jesse hynod. Yn y fynwent y mae bedd Ann Parry, Methodist a gafodd dröedigaeth yn y 18fed ganrif. Darganfuwyd fod ei chorff wedi ei gadw yn berffaith 50 mlynedd ar ôl ei chladdu. Ymhellach i fyny’r dyffryn ceir tref Rhuthun gyda’i Chanolfan Grefftau a’r Hen Garchar lle ceir archifdy’r Sir. Yng nghanol mynyddoedd Clwyd yn edrych dros y Dyffryn ceir Moel Famau, sydd ag adfail Tŵr y Jiwbilî ar ei chopa. Cafodd ei adeiladu fel dathliad i’r Brenin George III ar gyrraedd 60 mlynedd ar ei orseddfainc.